Cartref

Undeb y Mamau – Esgobaeth Bangor

Mudiad Cristnogol yw Undeb y Mamau sy’n hyrwyddo lles teuluoedd ledled y byd. Gwnawn hyn drwy :

  • Ddatblygu gweddi a chynnydd ysbrydol mewn teuluoedd;
  • Astudio ac ystyried bywyd teuluol a phriodas a’u lle mewn cymdeithas;
  • Wneud defnydd ymarferol o’n haelodau i wella amgylchiadau teuluoedd, yn genedlaethol ac o fewn eu cymdeithasau lleol.

Gweddi Undeb y Mamau

Arglwydd cariadus, diolchwn i ti am dy gariad a roddir mor rhad i bob un ohonom. Gweddïwn dros deuluoedd ledled y byd. Bendithia waith Undeb y Mamau wrth i ni geisio rhannu dy gariad di drwy hybu, cryfhau a chynnal priodas a bywyd teuluol. Wedi’n nerthu gan dy Ysbryd, bydded i ni gael ein huno mewn gweddi ac addoliad, a thrwy garu a gwasanaethu estyn allan i fod yn ddwylo i ti ar draws y byd. Yn enw Iesu. Amen.

 

Sefydlwyd Undeb y Mamau yn Esgobaeth Bangor yn 1891.

Mae Esgobaeth Bangor yn un o chwech esgobaeth yng Nghymru a’r esgobaeth diriogaethol hynaf ym Mhrydain.
Cymraeg yw iaith gyntaf tri chwarter yr esgobaeth a darperir addoliad a chyfathrebiad yn ddwyieithog.
Mae mwyafrif yr aelodau yn perthyn i gangen yn eglwys y plwyf. Gall y sawl na allant fynychu cyfarfodydd neu sy’n dymuno peidio ag ymaelodi mewn cangen fod yn Aelodau Esgobaethol, a chysylltir â hwy trwy ebost neu lythyr.

  • Esgobaeth Bangor



    Mae esgobaeth Bangor yn ymestyn dros y cyfan o ranbarth gogledd-orllewin Cymru ac yn gydffiniol i bob pwrpas â theyrnas hynafol Gwynedd.

    Mae’n ymestyn o borthladd Caergybi yn y gogledd i dref farchnad wledig Llanidloes yn y de; o’r santaidd Ynys Enlli yn y gorllewin i Landudno yn y dwyrain,ar hyd arfordir Gogledd Cymru; gydag Eryri ac ardaloedd mwyaf mynyddig Cymru yn gefndir iddi.